Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2024
Amser y cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
NDM8522 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd yn cymeradwyo'r casgliadau a'r argymhellion yn Adroddiad Terfynol y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ac yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion.
Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad terfynol | LLYW.CYMRU
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu 'cymeradwyo' a rhoi 'nodi' yn ei le
(30 munud)
(180 munud)
1. Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol: Ynni
34, 4, 5, 35, 38
2. Prosiectau Seilwaith Arwyddocaol: Arall
6, 7, 8, 9
3. Gwneud cais am gydsyniad Seilwaith: Cymorth i geisyddion
25, 10
4. Gwneud cais am gydsyniad Seilwaith: Y weithdrefn cyn gwneud cais a’r weithdrefn gwneud cais
26, 27, 32, 28, 33, 1, 11
5. Archwilio ceisiadau
29, 21, 22, 23, 24, 30, 12, 13
6. Polisiau statudol a materion perthnasol eraill
14, 15, 36, 37
7. Y penderfyniad
16
8. Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith
31, 17, 18, 19, 3, 2
9. Swyddogaethau atodol: Datganiadau Polisi Seilwaith
20
Dogfennau Ategol
Bil Seilwaith (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
(0 munud)
(0 munud)
(5 munud)
NDM8520 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(5 munud)
NDM8521 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) (Diwygio) 2024 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Chwefror 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(5 munud)
NNDM8528 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn am yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM8526 a NNDM8527 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 19 Mawrth 2024.
(5 munud)
NNDM8526 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef, cymal 3 sy'n ymwneud â chaffael cyhoeddus, a chymal 4 sy'n ymwneud â dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)
NNDM8527 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel), sef, cymal 2, trin cyrff asesu cydymffurfiaeth etc., i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Rhagfyr 2023 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2024 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Ceir copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:
Y Bil Masnach (Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel) [HL] (parliament.uk) (Saesneg yn unig)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024